Home Sign up Future events Media Supporters   لیست حامیان

Français Deutsch News - Iran سند فارسی Articles مقاله ها
Esperanto Cymraeg Imperialism گزارشها Audio files

Contact us  Office@hopoi.info

Na i'r gyfundrefn theocratig!

Ar ôl egwyl fer, mae gwrthdaro milwrol rhwng America neu un o'i chynghreiriaid ac Iran yn bosibilrwydd difrif eto, gyda Phrif Weinidog Israel, Ehud Olmert, yn gwneud mwy a mwy o ddatganiadau rhyfelgar ar alluoedd niwclear Iran, a George Bush yn hysbysu chwyddo'i filwyr yn Iraq. Mae'r datblygiadau hyn wedi dangos yn glir yr angen i fudiad gwrth-gyfalafol y byd gyd-dynnu'n gryf, er mwyn osgoi cyflafan ymerodraethol ofnadwy arall.

Yn anffodus, nid yw pawb wedi ymateb mewn ffordd gadarnhaol iawn. Er y byddai'n ymddangos mae'r adain dde yn unig sy'n cefnogi rhyfel newydd ar hyn o bryd, mae sawl grw^p ar y chwith sy'n teimlo fel mater o egwyddor na ddylid beirniadu cyfundrefn Iran. Mae hyn nid yn unig yn drwgdybus, mae'n wrthgynhyrchiol hefyd. Mae'r gyfundrefn hon yn hollol adweithiol - mae wedi torri streiciau mewn modd creulon ac mae wedi darostwng mudiad y myfyrwyr yn ogystal â mudiadau menywod a democratiaid.

Mae'r grwpiau a'r unigolyn hyn sy'n ymddiheuro dros y gyfundrefn yn datgelu eu hunain fel rhagrithwyr ac, yn fwy pwysig, yn lleihau effeithiolrwydd y mudiad gwrth-ryfel. Weithiau, wrth wefuso cefnogaeth i bawb sy'n ymdrechu yn erbyn y theocratiaeth, mae Campaign Iran yn gymorth ac yn amddiffyn i Ahmadinejad, sydd hyd yn oed yn gwadu ei fod ef a'i ddilynwyr yn adeiladu arfau niwclear - yr un mor wallgof a honni nad oes gan Israel mohonynt eisoes! Os yw'r mudiad gwrthryfel i fod o fudd i bobl Iraq, rhaid rhoi taw ar hyn. Mae ein gwrthwynebiad angerddol i ryfel ymerodraethol yn golygu y dylem sefyll gyda phobl Iran yn erbyn grymoedd adwasgol eu gwladwriaeth adweithiol!

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr ymgyrch yn erbyn rhyfel ymerodraethol, ac i roi cefnogaeth i weithwyr Iran, mudiadau menywod a democratiaid, cysylltwch â: www.hopoi.org

cysylltwch â ni -
HOPI
PO Box 54631
Llundain N16 8YE
www.hopoi.org





Articles
America's Bleeding "Cakewalk" Cyrus Bina
From Stealing to Robbing: A Post-Script
to "No Blood for Oil!"
Making Cars in Iran: Working for Iran Khodro 
US 'double or quits' - Mike Macnair
 
»

Reports from Previous Meetings
Copenhagen
Ireland
Report form the meeting in Sheffield
London
»
 Audio
Sign Up

(suggested contributions) individual £10/€20 waged, £5/€10 unwaged;
local organisation £25/€50; small national/regional organisation £50/€100

large national/regional organisation £100/€200.
If you can, please contribute financially to HOPI:

Please send other payments to HOPI, PO Box 54631, London N16 8YE